Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Chwefror 2017
Amser: 13.15 -
16.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3912
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Nicola Evans, Cartrefi Cymoedd Merthyr Steve Jones, Tai Ceredigion Derek Lassetter, Tai Ceredigion Michael Owen, Cartrefi Cymoedd Merthyr Helen White, y Bwrdd Rheoleiddio ar gyfer Cymru Mike Wiseman, Panel Ymgynghorol Tenantiaid |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Nick Selwyn - Swyddfa Archwilio Cymru Gabrielle Smith - Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.3 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad i egluro pwynt ar gyfer y cofnod, o gwestiwn a gyfeiriwyd at bobl yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 13 Chwefror.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb i'w adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon 2015-16 a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2017.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Helen White, Cadeirydd, Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a Mike Wiseman, Cyn Gadeirydd, y Panel Cynghori Tenantiaid ac aelod o’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio a’r Grŵp Making it Happen, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Jones, Prif Weithredwr a Derek Lassetter, Cadeirydd Tai Ceredigion, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Michael Owen, Prif Weithredwr a Nicola Evans, Cadeirydd Cartrefi Cymoedd Merthyr, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.